Event >
Find your future in Anglesey / Darganfod Dy Ddyfodol ym Môn

Are you a student or graduate who wants to explore career opportunities in Anglesey and the surrounding areas? If so, this event is not to be missed.

Darogan Talent and M-Sparc are hosting a one-of-a-kind careers event to showcase some of the best opportunities that Wales has to offer, with employers including Menter Môn, Llwyddo'n Lleol, YGC, Diogel Architecture, Business Wales, Coleg Cymraeg, Urdd & more!

It's going to be an inspiring afternoon, which will include:

  • Guest speakers
  • Food and drink provided throughout the day
  • A range of employers representing the best opportunities the region has to offer - with a special focus on STEM and Creative sectors for the M-SParc event!
  • Breakout sessions to explore different careers and sectors that will also allow you to meet peers with similar interests

Can it get any better? Well yes, it can. The event is fully-funded through the ARFOR challenge fund, which means that it's completely free for you to attend!

To come along, please register. The event is open to everyone - from those set on moving to Wales to those only starting to look into their career options!

If you'd like to attend and exhibit free of charge as an employer, please contact owain.james@darogantalent.cymru

Wyt ti'n fyfyriwr neu wedi graddio ac eisiau dysgu am gyfleoedd gyrfa ym Môn a'r cyffiniau? Os felly, dyma'r digwyddiad i ti.

Mae Darogan Talent ac M-Sparc yn cynnal digwyddiad gyrfaoedd unigryw i arddangos rhai o’r cyfleoedd gorau sydd gan Gymru i’w cynnig, gyda chyflogwyr yn cynnwys Menter Môn, Llwyddo'n Lleol, YGC, Diogel Architecture, Business Wales, Coleg Cymraeg, Urdd & mwy!

Byddwch yn rhan o brynhawn cofiadwy, a fydd yn cynnwys:

  • Siaradwyr gwadd
  • Bwyd a diod wedi eu darparu drwy gydol y dydd
  • Ystod o gyflogwyr sy'n cynrychioli'r cyfleoedd gorau sydd gan y rhanbarth i'w cynnig - gyda ffocws ar sectorau STEM a Chreadigol ar gyfer y digwyddiad hwn yn M-SParc!
  • Sesiynau i ddysgu mwy am wahanol yrfaoedd a sectorau ac i gwrdd â chyfoedion sydd â diddordebau tebyg

Ac i goroni'r cyfan? Mae'r digwyddiad wedi ei ariannu'n llawn trwy gronfa her ARFOR, sy'n golygu ei fod yn rhad ac am ddim i fynychu!

Cofrestrwch i fynychu. Mae'r digwyddiad yn agored i bawb - o'r rhai sy'n sicr eu bod am weithio yng Nghymru, i'r rhai sy'n dechrau archwilio eu hopsiynau.

I fynychu ac arddangos (am ddim!) fel cyflogwr, cysylltwch â owain.james@darogantalent.cymru

Location:
M-SParc Menai Science Park, Gaerwen LL60 6AG
Date & time:
July 3, 2024
12-5 PM

You can register below; or contact us if you have any queries.

Register for eventGet in touch