Cyflwynir Sgiliau ar gyfer Llwyddiant ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaglen weithgareddau newydd a fydd yn adeiladu ac yn ehangu ar weithgareddau llwyddiannus a gyflawnwyd dan y rhaglen flaenorol i gefnogi sgiliau a chynlluniau cysylltiedig gan gynnwys Gyrfaoedd Blasus a Pasbort Gyrfaoedd. Ei hethos craidd yw datblygu gweithlu medrus a galluog sy’n hanfodol i gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, ac i sbarduno arloesedd a thwf cynaliadwy.
Mae’r rhaglen Sgiliau ar gyfer Llwyddiant yn cynnig cymorth i fusnesau bwyd a diod sydd â ffocws ar y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a’r hyfforddiant cywir ar gyfer eu busnes a’r diwydiant ehangach. Mae’n galluogi gweithwyr i rannu gwybodaeth a phrofiadau gyda chyd-weithwyr ar yr un pryd â chynyddu hyder a hyblygrwydd yn y gweithle sy’n gwneud i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Gan weithio ar draws yr wyth prif sector yn niwydiant bwyd a diod Cymru, ei nod yw paratoi gweithwyr ledled Cymru i addasu i newidiadau a chyfleoedd ym maes gweithgynhyrchu bwyd, gan gynnwys heriau technegol, busnes ac amgylcheddol. Bydd gweithlu medrus yn gallu datblygu gyrfaoedd yn y diwydiant bwyd ym mhob rhan o Gymru.
Nod y Rôl
Nod y swydd hon yw darparu cymorth gweinyddol i’r tîm Sgiliau ar gyfer Llwyddiant er mwyn:
- cydlynu a darparu cefnogaeth i dîm y prosiect, a fydd yn cynnwys darparu gwybodaeth, gweithredu a chofnodi gweithgareddau ar gronfa ddata a systemau rheoli cwsmeriaid y prosiect
- bod yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am brosiectau, fel data allbwn, yn fewnol ac yn allanol i bartneriaid a rhanddeiliaid
- sicrhau bod holl ddogfennau’r prosiect yn gywir ac wedi’u harchifo
- cynorthwyo’r tîm i ddatblygu a gweithredu digwyddiadau a gweithgareddau allweddol
- cymorth gydag ymgysylltu a datblygu busnes pan fo angen
- cynnal a datblygu systemau gweinyddu’r cynllun
- bod yn rhyngweithiol a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth
- bod yn gyfrifol am gydlynu’r trefniadau ar gyfer gweithdai a digwyddiadau
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd hefyd gydweithio a gweithio’n agos gyda’r canlynol:
- Aelodau’r tîm marchnata a chyfathrebu yn ogystal â rheolwyr a swyddogion yn y tîm Ymgysylltu a Gweithlu i gynllunio a threfnu calendr o fentrau a gweithgareddau gan gynnwys digwyddiadau uchel eu proffil i hyrwyddo’r gwasanaeth a gynigir
- Rhaglenni Bwyd a Diod eraill yn Menter a Busnes i sicrhau dull gweithredu syml ar gyfer marchnata a chyfathrebu, gan wella profiad cyffredinol cleientiaid.
Prif Gyfrifoldebau
Rhoi gwybodaeth a chefnogaeth swyddfa i dîm y prosiect
- Darparu cymorth a chefnogaeth weinyddol ddibynadwy ac effeithlon i’r tîm Sgiliau ar gyfer Llwyddiant
- Trefnu a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd (mewnol ac allanol)
- Gweithio’n agos gyda’r tîm Sgiliau ar gyfer Llwyddiant i baratoi a threfnu gweithdai a digwyddiadau i hyrwyddo’r gwasanaeth ac ehangu cwmpas Ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru
- Arwain ar gydlynu sgiliau a threfniadau hyfforddi o ddydd i ddydd, gan gynnwys trefniadau gyda lleoliadau, hwyluswyr allanol a chleientiaid
- Cynrychioli Sgiliau ar gyfer Llwyddiant fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan Fusnesau Bwyd a Diod Cymru a sefydliadau / rhanddeiliaid eraill y rhaglen
- Cyfathrebu’n rheolaidd ac yn effeithiol â’r tîm Marchnata a Chyfathrebu i sicrhau bod gweithgareddau a drefnir gan y tîm Ymgysylltu a’r Gweithlu yn cael eu hyrwyddo’n effeithiol
- Teithio i leoliadau ledled Cymru i fynd i ddigwyddiadau, gweithdai a chwrdd â busnesau Bwyd a Diod Cymru pan fo angen i gefnogi rheolwyr Gweithlu ac Ymgysylltu. Sicrhau perthynas waith agos ar draws y tîm yn ogystal ag aelodau eraill o dîm y rhaglen bwyd a diod yn Menter a Busnes i sicrhau meddwl cydlynol o ran teithiau cleientiaid, adrodd ar allbwn a/neu weithgareddau marchnata a chyfathrebu.
- Cyfathrebu â’r asiantaethau allanol perthnasol
- Cydlynu a chrynhoi gweithgareddau misol aelodau’r tîm er mwyn cynhyrchu adroddiadau misol a chwarterol ( meintiol ac ansoddol)
- Casglu, cyflwyno a storio’r holl wybodaeth angenrheidiol yn unol â gofynion cyllido a monitro’r cynllun
- Sicrhau bod holl ffeiliau’r tîm yn cynnwys y wybodaeth angenrheidiol ac yn cefnogi Rheolwr y Prosiect i gynnal archwiliad rheolaidd
- Datblygu a rheoli cronfa ddata a systemau cleientiaid ar gyfer casglu gwybodaeth ac allbynnau’r prosiect
- Cofnodi targedau’r tîm a gwirio hynny yn erbyn dogfennau cymeradwyo
- Sicrhau y cydymffurfir â’r ddeddfwriaeth diogelu data briodol
- Delio ag ymholiadau ar-lein a thros y ffôn a’u trosglwyddo i’r swyddogion priodol mewn modd amserol a phroffesiynol
- Cynnal cofnodion yn effeithlon mewn fframwaith y cytunwyd arno i fodloni gofynion cyllido Llywodraeth Cymru a dilysrwydd yr allbwn
Ymchwil a Monitro
- Cefnogi Arweinydd y Tîm Marchnata a Digwyddiadau i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth cleientiaid.
- Mewnbynnu data’n gywir
- Dadansoddi cyrhaeddiad y prosiect o ran ei dargedau drwy sicrhau bod y data’n gyfredol
- Cefnogi Arweinydd y Tîm Marchnata a Digwyddiadau drwy fynychu cyfarfodydd gyda chleientiaid yn ôl yr angen i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol
- Sicrhau bod CRM a chronfeydd data’r prosiect yn cael eu cynnal a’u bod yn gyfredol ac yn effeithlon
- Cysylltu â chleientiaid, darparwyr allanol a phartneriaid i gydlynu gweithgareddau / digwyddiadau
Arall
- Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth i gwsmeriaid, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu bodloni
- Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl yr angen
- Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
- Addysg hyd at NVQ lefel 3 neu uwch, a/neu brofiad amlwg mewn maes perthnasol.
- Brwdfrydig am waith yr adran
- Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol, gyda’r gallu i weithio ar amserlenni tynn
- Sgiliau rhyngbersonol gweinyddol gwych
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur (Cymraeg/Saesneg)
- Sgiliau prawf ddarllen da
- Gallu asesu a delio ag ymholiadau yn brydlon ac yn broffesiynol
- Gallu cadw cofnodion clir, cryno a chywir mewn cyfarfodydd
- Gallu cymell ei hun a derbyn cyfrifoldeb am gymhwyso ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
- Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau ymlaen yn effeithlon
- Gallu gweithio’n annibynnol neu fel aelod o dîm
- Sgiliau TG yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, cronfeydd data, E-bost a’r rhyngrwyd.
- Trwydded yrru lawn a defnydd o gar
Dymunol
- Dealltwriaeth neu brofiad da o’r sector amaethyddiaeth / gwledig / bwyd yng Nghymru
- Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau uchel eu proffil
- Profiad amlwg o weithio yn y diwydiant amaeth a/neu fwyd yng Nghymru
- Profiad o ddefnyddio systemau fel Salesforce, Mailchimp a WordPress