Back to Jobs

Cynhyrchydd (2 Swydd)

Yn ddibynnol ar brofiad
Caernarfon / Llanelli
Permanent 
Disgrifiad:

Llanelli  -  Swydd barhaol

Caernarfon   -  Swydd cyfnod mamolaeth

Mae’n gyfle cyffrous i greu cynnwys gwreiddiol a blaengar i ddwy o raglenni mwyaf poblogaidd S4C. Mae’r rôl yn gofyn am feddwl creadigol a threfnus ac yn cyplysu gwaith ar y rhaglenni byw yn ogystal ag eitemau wedi eu paratoi o flaen llaw ar gyfer y rhaglenni byw a’r llwyfannau digidol. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio yn y diwydiannau creadigol gyda gwybodaeth ac adnabyddiaeth dda o Gymru a’i phobl ynghŷd a’r gallu i greu cynnwys apelgar.

Bydd profiad yn fantais ond byddwn hefyd yn ystyried ymgeiswyr sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau cynhyrchydd. Cynigir hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus os yn llai profiadol. Mae agwedd bositif, brwdfrydig yn hanfodol ar gyfer y swydd yma yn ogystal â’r gallu i weithio’n dda gydag eraill. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.

Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau ry’ ni’n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE ac hefyd Y Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SQ                      

Cyflog:  Yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau:    13eg Mai 2024

Manylion Pellach

Oriau Gwaith:   Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn:  Mae hawl gan staff cyflogedig I ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Digwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau:

Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 13eg Mai 2024 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE.

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.

Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis:
Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg.

Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler http://www.tinopolis.com/privacy-notice/

Tinopolis
Apply nowApply nowShare
Welsh essential
Ready to apply for this opening?

Please let the organisation know that you found this position on this Job Board as a way to support us.

Apply nowApply now