We are seeking a highly motivated and talented Graduate Engineer to join our dynamic engineering team. As a Graduate Engineer, you will have the opportunity to apply your academic knowledge and gain hands-on experience in various engineering projects. This entry-level position is designed to provide recent graduates with a solid foundation for a successful engineering career while contributing to our organization's growth and innovation. In return we offer a competitive package, training opportunities and support on the pathway to Chartership.
Our experienced and multidisciplined engineers are experts in conducting all aspects of engineering design, from concept to completion. As a Graduate Process Engineer, you will:
Specification:
Salary & benefits:
Apply today with a CV and cover letter explaining why you want to work for Engsolve, why you think you are a good fit, and a little bit about yourself.
Rydym yn chwilio am Beiriannydd Graddedig cymhellgar a dawnus i ymuno â’n tîm peirianneg deinamig. Fel Peiriannydd Graddedig, cewch y cyfle i roi eich gwybodaeth academaidd ar waith ac ennill profiad ymarferol mewn amryw brosiect peirianneg. Mae’r swydd lefel mynediad hon wedi’i chynllunio i roi sylfaen gadarn i raddedigion diweddar ar gyfer gyrfa beirianneg lwyddiannus, gan gyfrannu at dwf ac arloesedd ein sefydliad. Yn gyfnewid, rydym yn cynnig pecyn cystadleuol, cyfleoedd hyfforddi a chefnogaeth ar y llwybr tuag at Siarteriaeth.
Mae ein peirianwyr profiadol ac amlddisgyblaethol yn arbenigwyr mewn cynnal pob agwedd ar ddylunio peirianneg, o’r cysyniad i’r cwblhau. Fel Peiriannydd Prosesau Graddedig, byddwch yn darparu a chwblhau:
Cefnogaeth Dechnegol a Phrosiectau: Cydweithio gyda pheirianwyr uwch a thimau prosiect i gynorthwyo gyda dylunio, datblygu a gweithredu atebion peirianyddol ac i gyfrannu at brosiectau.
Ymchwil a Dadansoddiad: Cynnal ymchwil a dadansoddiad i gefnogi prosiectau peirianneg, gan gynnwys casglu data, efelychiadau a phrofi.
Dogfennau: Paratoi adroddiadau technegol, dogfennau a chyflwyniadau i gyfathrebu cynnydd a chanlyniadau prosiectau yn effeithiol.
Sicrwydd Ansawdd: Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau diwydiant, rheoliadau a gweithdrefnau rheoli ansawdd ym mhob dasg beirianneg.
Datrys Problemau: Adnabod a datrys problemau technegol, gan gynnig atebion arloesol.
Dysgu Parhaus: Aros yn gyfredol gyda thueddiadau’r diwydiant, technolegau ac arferion gorau trwy hyfforddiant parhaus a chyfleoedd datblygiad proffesiynol.
Cydweithio: Gweithio’n gydweithredol gyda thimau traws-swyddogaethol, gan feithrin cyfathrebu effeithiol a rhannu gwybodaeth.
Diogelwch: Cydymffurfio â phrotocolau diogelwch a chyfrannu at gynnal amgylchedd gwaith diogel.
Manyleb:
Cyflog a buddion:
£27,500 - £29,500
Mae buddion yn cynnwys gofal iechyd, oriau hyblyg, cynllun pensiwn ac yswiriant bywyd.
Cefnogaeth tuag at siarteriaeth a datblygiad gyrfa.
Gwnewch gais heddiw gyda CV a llythyr eglurhaol yn esbonio pam rydych am weithio i Engsolve, pam rydych chi’n meddwl eich bod yn ffit da, a rhywfaint amdanoch eich hun.