Back to Jobs

Graduate Trainee / Hyfforddai Graddedig

£29,440
Across Wales / Ar draws Cymru
Grad scheme

About the role

Do you see yourself as a future finance leader? Are you looking for a first-class, fully funded graduate opportunity to train as a chartered accountant?

Then our Graduate Trainee programme might be what you’re looking for!

Interested in where your tax money is going and what it is being spent on? Are you passionate about improving public services? As a trainee at Audit Wales, you’ll be studying for your accountancy qualification whilst investigating how the public’s money is being spent, and whether it is being spent well.

You’ll play a part in the audit of over 800 public bodies across Wales, ensuring the work you do makes a real difference to the citizens of Wales. Our clients include Welsh Government, NHS Wales, local government and many more!

Who are Audit Wales

We’re the independent public sector audit body within Wales; our unique role is to assure the people of Wales that public money is being well spent and to inspire the public sector to improve. Our work is having real impact on local communities; some of our recent national work has looked at building safety, digital inclusion, COVID-19, homelessness and climate change.

Why Audit Wales?

We care about the learning and development of our trainees, and you’ll be fully supported whilst you balance your studying with your hands on role as a trainee.

We’ve also got an impressive list of benefits:

• 33 days annual leave per annum (exclusive of public bank holidays)

• Generous salary package

• Cycle to work scheme

• Shopping discounts

• Professional subscriptions

Extensive learning and development opportunities, including LinkedIn licenses.

We are also proud to be accredited with Working Families and the Living Wage Foundation and are continuing to grow a diverse workforce that is representative of the communities we work in and the skills, experiences, and perspectives they offer and welcome applications from people from all backgrounds.  We are also a member of the Disability Confident Scheme and guarantee progression through to the first stage selection process for all disabled applicants who meet the essential criteria for the role.

Please also know, our program has two entry points, April 2024 for our applicants who have already graduated and July 2024 for those who are due to graduate.

For further information on the role, please see the job description and contact Sian Grainger on 02920 320547 or see our website to apply.

Nationality Requirements of the Role:

  • UK citizens
  • Citizens of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
  • Citizens of the EU, EEA or Switzerland who have (or are eligible for) status under The Permanent Residence Scheme for Citizens of the European Union (EUSS)

All applicants must have the right to work as a permanent full-time employee in the UK without restrictions for the full duration of the training contract, i.e. 4 years.

If you are not sure, visit the UK Government website to check your eligibility.

You should be aware that Wales Audit is unable to sponsor work visas

Ynglŷn â'r rôl

Ydych chi'n gweld eich hun fel arweinydd cyllid yn y dyfodol? Ydych chi'n chwilio am gyfle graddedig o'r radd flaenaf wedi'i ariannu'n llawn i hyfforddi fel cyfrifydd siartredig?

Yna efallai mai ein rhaglen Hyfforddai Graddedig yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano!

Oes gennych chi ddiddordeb mewn lle mae'ch arian treth yn mynd ac ar beth mae'n cael ei wario? Ydych chi'n angerddol am wella gwasanaethau cyhoeddus? Fel hyfforddai yn Archwilio Cymru, byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster cyfrifyddu wrth ymchwilio i sut mae arian y cyhoedd yn cael ei wario, ac a yw'n cael ei wario'n dda.

Byddwch yn chwarae rhan yn y gwaith o archwilio dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru, gan sicrhau bod y gwaith a wnewch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddinasyddion Cymru. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol a llawer mwy!

Pwy yw Archwilio Cymru?

Ni yw'r corff archwilio annibynnol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; ein rôl unigryw yw rhoi sicrwydd i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda ac ysbrydoli'r sector cyhoeddus i wella. Mae ein gwaith yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau lleol; mae peth o'n gwaith cenedlaethol diweddar wedi edrych ar ddiogelwch adeiladau, cynhwysiant digidol, COVID-19, digartrefedd a newid hinsawdd.

Pam Archwilio Cymru?

Rydym yn gofalu am ddysgu a datblygu ein hyfforddeion, a byddwch yn cael eich cefnogi'n llawn wrth i chi gydbwyso eich astudio â'ch rôl ymarferol fel hyfforddai.

Mae gennym hefyd restr anhygoel o fuddion:

• 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gyfrif Gwyliau Banc )

• Pecyn cyflog hael

• Cynllun beicio i'r gwaith

• Gostyngiadau siopa

• Tanysgrifiadau proffesiynol

Cyfleoedd dysgu a datblygu helaeth, gan gynnwys trwyddedau LinkedIn.

Rydym hefyd yn falch o fod wedi ein hachredu gan Working Families a'r Living Wage Foundation ac rydym yn parhau i dyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.  Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn mynd ymlaen i’r cam cyntaf yn y broses o recriwtio ar gyfer y rôl.

Mae’n bwysig eich bod yn gwybod fod gan ein rhaglen ddau bwynt mynediad, Ebrill 2024 ar gyfer ein hymgeiswyr sydd eisoes wedi graddio a Gorffennaf 2024 ar gyfer y rhai sydd i fod i raddio.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gweler y disgrifiad swydd a cysylltwch â Sian Grainger ar 02920 320547 neu edrychwch ar ein gwefan i wneud cais.

Gofynion Cenedligrwydd y Rôl:

  • Dinasyddion y DU
  • Dinasyddion gwledydd y Gymanwlad sydd â'r hawl i weithio yn y DU
  • Dinasyddion yr UE, AEE, neu'r Swistir sydd â statws (neu sy’n gymwys ar gyfer statws) o dan Y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)

Rhaid i bob ymgeisydd fod â'r hawl i weithio fel gweithiwr amser llawn parhaol yn y DU heb gyfyngiadau am gyfnod llawn y contract hyfforddi, h.y. 4 blynedd.

Os nad ydych yn siŵr, ewch i wefan Llywodraeth y DU i wirio eich cymhwysedd.

Dylech fod yn ymwybodol nad yw Archwilio Cymru yn gallu noddi fisâu gwaith

Archwilio Cymru / Audit Wales
Apply nowApply nowShare
Welsh essential
Ready to apply for this opening?

Please let the organisation know that you found this position on this Job Board as a way to support us.

Apply nowApply now