Back to Jobs

Marketing & Events Officer / Swyddog Marchnata & Digwyddiadau

£31,000 (FTE)
Flexible (Ceredigion & Carmarthenshire)
Temporary

Terms

  • Period: 3 days (22.5 hours) per week for 6 months based on a freelance contract
  • Location: Flexible and remote working, with meetings and work occasionally in Carmarthen
  • This opportunity has been supported by Llwyddo'n Lleol. It is required that the individual is located in Carmarthenshire or in Ceredigion and is under 35 years of age.

What will you get?

  • Salary: Equivalent to £31,000 pro rata
  • Opportunities to attend fully-funded industry events with all costs covered
  • Opportunities to complete fully-funded training in relevant subjects and professional development programmes with all costs covered
  • Experience working with a range of organisations on creative projects and content creation
  • Experience contributing to the organisation of a large event

Overview of Libera

Libera is a new bilingual digital creative agency specializing in digital advertising and content creation for social media. Since being established in 2023, Libera has worked with a number of exciting clients within the first year including TinInt, BBC Cymru Wales, Royal Welsh Agricultural Society, Urdd Gobaith Cymru, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Menter a Busnes and others.

Libera are also the organizers of Social Media Conference Cymru. Social Media Conference Cymru was held for the first time in September 2023, when 280 people in the marketing field came together in Cardiff to hear from experts in the sector and to network. Social Media Conference Cymru will return in 2024. This is a special opportunity to play a key role in the growth of one of the main events of the marketing industry in Wales.

Overview of the role

We are keen to recruit a Marketing and Events Officer with experience in marketing, creating content and organising or coordinating events. The successful candidate will be organised, creative, have an understanding of the digital landscape and social media, and will be able to work as part of a small team, as well as to work independently.

Telerau

  • Cyfnod: 3 diwrnod (22.5 awr) yr wythnos am 6 mis ar sail cytundeb llawrydd
  • Lleoliad: Gweithio hyblyg ac o adref, ac yn achlysurol yng Nghaerfyrddin
  • Mae’r cynnig wedi ei gefnogi gan Llwyddo’n Lleol. Mae’n ofynnol bod yr unigolyn wedi eu lleoli yn Sir Gaerfyrddin neu yng Ngheredigion ac o dan 35 oed.

Beth fyddwch chi'n ei dderbyn?

  • Cyflog: Cyfwerth â £31,000 pro rata
  • Cyfleoedd i fynychu digwyddiadau diwydiant perthnasol wedi'u ariannu'n llawn
  • Cyfleoedd i gwblhau hyfforddiant mewn pynciau perthnasol a rhaglenni datblygiad proffesiynol wedi'u ariannu'n llawn
  • Profiad o weithio gydag amryiwaeth o sefydliadau ar brosiectau creadigol a chreu cynnwys
  • Profiad o gyfrannu at drefnu digwyddiad mawr

Trosolwg o Libera

Mae Libera yn asiantaeth greadigol ddigidol ddwyieithog newydd sy’n arbenigo mewn hysbysebion digidol a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Ers sefydlu yn 2023, mae Libera wedi gweithio gyda nifer o gleientiaid cyffrous o fewn y flwyddyn gyntaf gan gynnwys TinInt, BBC Cymru Wales, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Menter a Busnes ac eraill.

Libera hefyd yw trefnwyr Social Media Conference Cymru. Cynhaliwyd Social Media Conference Cymru am y tro cyntaf ym mis Medi 2023, pan ddaeth 280 o bobl yn y maes marchnata at ei gilydd yng Nghaerdydd i glywed gan arbenigwyr y sector ac i rwydweithio. Bydd Social Media Conference Cymru yn dychwelyd yn 2024. Dyma gyfle arbennig i chwarae rhan allweddol yn nhwf un o brif ddigwyddiadau’r diwydiant marchnata yng Nghymru.

Trosolwg o’r rôl

Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Marchnata a Digwyddiadau sydd â phrofiad o farchnata, o greu cynnwys ac o ddatblygu neu gydlynu elfennau o ddigwyddiadau. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i drefnu, i fod yn greadigol, dealltwriaeth o’r dirwedd ddigidol a chyfryngau cymdeithasol, yn gallu rhoi sylw i fanylder, a bydd yn gallu gweithio fel rhan o dîm bach, yn ogystal â gweithio’n annibynnol.

Libera
Apply nowApply nowShare
Welsh essential
Ready to apply for this opening?

Please let the organisation know that you found this position on this Job Board as a way to support us.

Apply nowApply now