Back to Jobs

Rheolwr Aelodaeth

£28,430
Bangor / Hybrid
Permanent 

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dawnus i’r swydd hon.

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg i/o’r Saesneg

Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu’n llawn at waith y Gymdeithas.

Prif bwrpas y swydd hon yw gwasanaethau ein haelodau drwy:

      Gweinyddu’r drefn arholi (yr arholiadau aelodaeth testun a’r prawf cyfieithu ar y pryd) a’r ymgyrch ailymaelodi flynyddol.

      Sicrhau cyswllt cyson gyda’r aelodau drwy fwletin newyddion, bwletin swyddi a thendrau a’r cyfryngau cymdeithasol.

      Cydweithio i drefnu rhaglen o gyrsiau a gweithdai hyfforddi a datblygiad proffesiynol.

      Cydweithio i drefnu rhaglen o ddigwyddiadau cymdeithasol.

      Cadw cofnod manwl o holl incwm a gwariant CCC. Mewnbynnu anfonebau i’w talu a chodi anfonebau ar gyfer cyflenwyr.

      Talu cyflogau misol ar sail y wybodaeth a geir gan y cyfrifydd. Prif gyswllt bancio ar lein CCC.

      Llunio adroddiadau ariannol ar gyfer cyfarfodydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr.

      Yn gyffredinol sicrhau gweinyddiaeth esmwyth ac effeithiol y Gymdeithas.

Mae’r Gymdeithas yn un fechan a dim ond un aelod arall o staff sydd ganddi, sef y Prif Swyddog. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd i ysgwydd cyfrifoldebau ac i weithio heb oruchwyliaeth er mwyn ehangu profiad a datblygu sgiliau.

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Gwyn Williams, y Prif Swyddog, naill ai trwy ffonio 07831 092524 neu trwy e-bost gwyn.williams@cyfieithwyr.cymru

I dderbyn pecyn ymgeisydd e-bostiwch gwyn.williams@cyfieithwyr.cymru

I gael gwybod rhagor am weithgareddau’r Gymdeithas, ewch i’r wefan www.cyfieithwyr.cymru

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Apply nowApply nowShare
Welsh essential
Ready to apply for this opening?

Please let the organisation know that you found this position on this Job Board as a way to support us.

Apply nowApply now