RHEOLWR PROSIECTAU
Mae cwmni cyfieithu Cymen yn chwilio am unigolyn trefnus a chydwybodol i ymuno â’n tîm prysur yn ein swyddfa yng Nghaernarfon.
Oriau Gwaith: 37.5 awr yr wythnos
Gwyliau Blynyddol: 25 + 8 Gŵyl y Banc (yn cynyddu bob 2 flynedd i hyd at 30 diwrnod y flwyddyn) a chynllun prynu gwyliau
Cyflog: £26,000 - £30,000 y flwyddyn pro rata
Pensiwn: 3% ar gyflog gros a 9% ar gyflog gros ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus
Buddion: Bonws blynyddol yn seiliedig ar elw
Bydd yr amrywiol ddyletswyddau’n cynnwys trefnu a rhannu gwaith i’n cyfieithwyr, rheoli amserlenni gwaith a bod yn gyfrifol am lif gwaith y cwmni.
Yn ddelfrydol bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn swyddfa brysur ac ysgwyddo cyfrifoldeb dros amrywiol dasgau. Byddwn yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i gyflawni’r tasgau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfathrebu ar lafar ac ar bapur mewn Cymraeg a Saesneg graenus.
Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch i holi am ffurflen gais a rhagor o wybodaeth. Mae croeso cynnes i chi hefyd gysylltu i drafod y swydd ymhellach.
e-bost: manon@cymen.co.uk
ffôn: 01286 674409
Dyddiad cau – 08/05/2024