Back to Jobs

Swyddog Cyfathrebu a Marchnata (Maethu)

£26,421 - £ 30,296
Caerfyrddin
Temporary

Swydd dros dro tan 31/03/2025 oherwydd cyllid grant.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu i ddarparu rhaglen o ymgyrchoedd hyrwyddo o safon i ystod eang o bobl.

Mae maethu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant yn ein cymuned ac rydym am gynyddu nifer y gofalwyr sydd gennym drwy gynllun buddsoddi uchelgeisiol yn ein gwasanaeth. Bydd ein strategaeth marchnata a recriwtio yn allweddol i'n llwyddiant.

Dyma gyfle delfrydol i arbenigwr marchnata neu gyfathrebu gefnogi ein cynlluniau a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Byddwch yn gweithio fel rhan o'n tîm cyfathrebu, marchnata a'r cyfryngau ac yn uniongyrchol gyda'n gwasanaeth maethu a'r tîm ehangach yn y gwasanaethau plant i helpu i wireddu eu gweledigaeth.    

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Os oes gennych ddiddordeb ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Deina Hockenhull (Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau) ar DMHockenhull@sirgar.gov.uk

Cyngor Sir Caerfyrddin
Apply nowApply nowShare
Welsh essential
Ready to apply for this opening?

Please let the organisation know that you found this position on this Job Board as a way to support us.

Apply nowApply now